![]() |
||||
|
Hafan |
Castell y FenniHeddiw mae Castell y Fenni, llun uchod, yn adfail hyfryd a'r mynyddoedd ysblennydd sy'n gefndir iddo'n amgylchynu'r dref. Saif y caban hela sy'n dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sydd bellach wedi ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol ar safle'r mwnt Normanaidd gwreiddiol sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar ddeg. Adwaenir y caban hwn fel y Tw^r ac mae'n gartref i Amgueddfa'r Fenni lle gwelwch chi gasgliad hynod o arteffactau, cegin fferm Fictorianaidd Gymreig, a gweithdy cyfrwywr ymhlith yr arddangosfeydd. Mae'r amgueddfa'n cynnal nifer o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n cynnal cwisiau a gweithdai ar gyfer plant (gweler tudalen yr 'Amgueddfa').
Ar ôl 1190 dechreuodd y Normaniaid ailgodi'r castell gyda cherrig, gan ddechrau gyda'r tw^r ac yna'r cysylltfur a phum tw^r, y gellid amddiffyn pob un ohonynt yn annibynnol. Y mwnt a darn o fanc Normanaidd a ddarganfuwyd dan dw^r y dwyrain ym 1990 yw'r unig rannau o'r castell gwreiddiol sy'n weddill heddiw. Mae'n debyg bod y banc yn rhan o ragfuriau'r castell mwnt a beili gwreiddiol. Gwelir amlinell y beili Normanaidd gwreiddiol yn waliau allanol y castell. Wrth waelodion y 'Tw^r' gwelir bwa cerrig o hyd, ac efallai mai dyma olion hen dw^r crwn cerrig. Darfu'r digwyddiad enwocaf i ddigwydd yn y castell tua 1175 pan wysiodd yr Arglwydd Normanaidd William de Braose Seisyll (Sitsyllt) ap Dyfnwal o Gastell Arnallt ac eraill yno ar Ddydd Nadolig gan wneud esgus y byddent yn clywed proclamasiwn brenhinol. Gadawodd y Cymry eu harfau ar eu hôl gan ddilyn arfer yr oes - cyn iddynt fynd i'r Neuadd Fawr i fwynhau'r wledd. Wedi iddynt eistedd rhoddodd de Braose arwydd ac fe ruthrodd llu o ddynion arfog i'r neuadd a lladd y Cymry. Drannoeth aeth y Normaniaid i Gastell Arnallt gan gipio gwraig Seisyll a lladd ei fab saith oed, Cadwaladr. Saith mlynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, dygodd y Cymry eu dial dan arweiniad Hywel ap Iorwerth, gan ddwyn gwarchae ar y castell a'i losgi. Adroddwyd yr hanes gan Gerallt Gymro a fu'n ymweld â'r Fenni yn ystod ei Daith trwy Gymru ym 1182 a soniai ef am 'waradwydd gwaedlyd'.
Ymwelodd y Brenin John â'r castell ym 1215 pan oedd
ym meddiant y goron. Bu'r castell ar ei fwyaf ysblennydd yn ystod y
drydedd ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond pan ddaeth
heddwch drachefn i'r rhan gythryblus hon o'r gororau ni fyddai yma ond
cwnstabl a garsiwn bychan yn ei feddiannu. Ers dechrau'r 15fed ganrif bu'r castell yn eiddo i'r Nevilliaid ac ers hynny ni fu Arglwydd y Fenni'n trigo yn y castell. Roedd y castell yn ddigon cadarn i gael ei ddal ar ran y brenin yn ystod y Rhyfel Cartref, ond gorchmynnodd Siarl I iddo gael ei wneud yn amhreswyliadwy wrth i luoedd y Senedd ddynesu ato ym 1645. Yna fe'i defnyddiwyd yn chwarel ar gyfer adeiladau lleol nes i warchod hen gestyll ddod yn fwy ffasiynol. Heddiw, mae ganddo nifer o nodweddion diddorol o hyd. Y mwnt: Ar y tir uchel hwn ym 1087 safai tw^r pren crwn ac yna un o gerrig. O'r caban hela sy'n dyddio o gyfnod y Rhaglywiaeth a godwyd ym 1819 ar gyfer Ardalydd y Fenni, mae llethr raddol yn arwain at safle'r beili. Y seleri: Buasai angen storfeydd helaeth o fwyd mewn castell a'r Cymry'n ymosod arno'n bur aml. Byddai stablau, llety ar gyfer teulu'r arglwydd a'i fyddin, capel, ysguboriau a cheginau wedi cymryd llawer o'r gofod y tu mewn i gysylltfuriau'r beili. Tyrau'r dwyrain: Fry uwch law i Stryd y Felin erys olion dau dw^r bargodol a godwyd i fedru anelu arfau ar hyd gwaelodion y wal gyfagos. Wal y gogledd: Yn y fan hon edrychai'r wal uchel dros ffos amddiffynnol draw at y dref ganoloesol. Yn y fan yma a rhannau eraill o'r castell mae'r waliau allanol yn fodern.
Neuadd Fawr: Yn union y tu mewn i'r porthdy mae grisiau allanol yn arwain at ddrws gogleddol y neuadd wledda, a adeiladwyd ar y llawr cyntaf am resymau amddiffynnol. Mae'n debyg yr arferai corbelau'r wal orllewinol gynnal to trawstiau gordd. Yma y digwyddodd cyflafan Nadolig 1175. Mae'r ffenestr fechan ym mhen deheuol y neuadd yn werth ei gweld o'r naill ochr a'r llall. Mae tystiolaeth y defnyddid caeadau pren arni; defnyddid memrwn a chorn hefyd pan na fyddai gwydr yn addas neu oni ellid ei fforddio. Byddai tewychiad onglog y wal isaf yn ei hamddiffyn rhag cael ei thanseilio gan beri i daflegrau a ollyngid oddi fry adlamu'n llorweddol.
|
|||