| |
English
Hafan
Ein Cymdeithas
Darlithoedd
Placiau
Hanes y dref
Adeiladau
Castell
Amgueddfa
Eglwys y Priordy
Pobl
Dweud eich dweud
Rhestr llyfrau
Dolenni
|
|
Pobl y Fenni
Bu'r Fenni a'r cylch yn fan geni neu'n gartref i nifer
o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru, i Brydain ac i'r byd.
Dyma rai ohonynt. (E-bostiwch ni ar abergavennyhistory@ukonline.co.uk
os oes gennych chi unrhyw sylwadau i'w gwneud am y dudalen hon neu am
unrhyw dudalen arall): Cliciwch ar enw i weld y manylion.
John
Barnie l
John
Fielding l
Nicky Grist l
Bert
Isaac l
Matthew Jay l
Robert
Jones l
Dr David Lewis l
St David
Lewis l
Lady Llanofer l
Lord
Llanofer l
Sir Harry Llewellyn
l
Harry
Meadows l
Catherine Merriman
l
Malcolm Nash l
Anna Pavord l
Owen Sheers l
Sarah Snazell
l
Ann and Franco Taruschio
l
Matt Tebbutt l
Alison Tod
l
Ethel Lina White l
Raymond
Williams
MATTHEW JAY
(10 Hyd 1978 - 25 Medi 2003)
Disgrifiwyd y canwr/cyfansoddwr Matthew Jay, a fu farw'n 24 oed, gan adolygydd
y Sunday Times fel "un o'r cyfansoddwyr caneuon disgleiriaf." Rhyddhaodd
Matthew ei albwm Draw yn 2001 ac fe gafodd dderbyniad da gan y beirniaid
a bu'n teithio Prydain.
Magwyd Graham Matthew yn y Fenni ar ôl i'w deulu symud yma o Plymouth,
ac fe aeth i Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII.
Ar ôl ymadael â'r ysgol symudodd i Nottingham, lle cafodd gontract gyda'r
label cerddoriaeth Food. Mae ei rieni, Hilary a Tony, yn gerddorion gwerin
lleol a fu'n canu fel deuawd ac fel The J Ceilidh Band. Dysgwyd Matthew
i ganu'r gitâr fâs gan ei dad pan oedd yn wyth oed "cyn gynted ag y gallai
ei fysedd gyrraedd y tannau ", ac fe ymunodd â band ei rieni.
Please Don't Send Me Away oedd y sengl o'i albwm gyntaf Draw y
bu iddo ganu'r gitâr acwstig a thrydanol arni. Ar yr albwm fe glywch chi
frawd hy^n Matthew, Eddy. Pan fu'n teithio Prydain, canodd Matthew mewn
dinasoedd megis Newcastle, Bryste, Caerdydd, Llundain, Lerpwl a Leeds.
Yn ystod Haf 2001 bu'n teithio Unol Daleithiau America a Chanada yn cefnogi
Dido, Travis, Doves, Starsailor, i hyrwyddo ei albwm gyntaf. Ymhlith y
dyddiadau roedd Toronto, Detroit, Chicago a Minneapolis. Bu'n cefnogi'r
Stereophonics hefyd. Rhyddhawyd albwm o'i ganeuon sydd ar gael ar lein
yn unig ym mis Awst 2004. Bwriedir rhyddhau rhagor o ddeunydd ym mis Medi
2005.
OWEN
SHEERS:
Ganwyd y bardd Owen Sheers ym 1974 yn Suva, Fiji, lle'r oedd ei dad, David,
yn gweithio. Treuliodd beth o'i blentyndod yno ac yn Llundain. Dychwelodd
ei deulu i'r Fenni pan oedd yn naw oed. Ganwyd mam Owen, Eryl yn ne Sir
Frycheiniog.
Aeth Owen i Ysgol Gynradd Llanddewi Rhydderch ac Ysgol Iau Harold Road
cyn mynd i Ysgol y Brenin Harri VIII. Bu'n fyfyriwr yn y Coleg Newydd,
Rhydychen, ac yna bu'n astudio ar gyfer gradd Meistr ym Mhrifysgol East
Anglia. Enillodd wobr Eric Gregory am farddoniaeth (1999) ac enillodd
gystadleuaeth dalent Vogue i ysgrifenwyr ifanc. Mae Owen yn byw yn Llundain
ac mae'n gweithio i'r teledu ac fel awdur ar ei liwt ei hunan. Mae wedi
gweithio fel cyflwynydd teledu ar raglen gelf fisol BBC2 Cymru a BBC2W
In The Picture. Fe'i gwelir yn rheolaidd yng Ngw^yl y Gelli bob
blwyddyn ac roedd ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth Llyfr Cymreig y
Flwyddyn ar gyfer The Blue Book, a gyhoeddwyd gan Seren.
Ar gyfer rhifyn y Mileniwm Newydd o Gylchgrawn y Times, tynnodd David
Bailey ffotograffau o artistiaid a gwyddonwyr blaenllaw ynghyd â'r sawl
yr oeddyn nhw'n meddwl fyddai'n symud y ddisgyblaeth yn ei blaen. Dewisodd
Andrew Motion, y Bardd Llawryfog, Sheers fel y bardd y dylid gwylio allan
amdano. Yn 2004, cyhoeddwyd llyfr Owen, The Dust Diaries ac roedd
wedi ei seilio ar fywyd ei hen hen ewythr Arthur Cripps yn Zimbabwe.
MATT TEBBUTT
MATT TEBBUTT:
Young British chef Matt Tebbutt returned to home to Wales in 2001 after
an absence of eight years and with his wife Lisa has transformed the former
Foxhunter pub at Nantyderry (once the stationmaster's house) into a top
restaurant which is winning wide acclaim.
The Foxhunter is named after Olympic champion Sir Harry Llewellyn's famous
horse (see below). Born in High Wycombe in 1973, Matt Tebbutt moved to
South Wales at the age of six months and so considers himself an honorary
Welshman. After his early schooling in Wales, he studied geography at
Oxford Polytechnic. An ambition to become a pilot led him to join the
University Air Squadron, but having learnt to fly, he decided against
joining the RAF in favour of a career as a chef. He took a diploma course
in London at the noted Leith's cookery school, and then trained with many
of the UK's leading chefs, including Marco Pierre White, Sally Clarke
and Alistair Little. Inspiration over the years has also come from Franco
and Ann Taruschio, (see below) former owners of the Walnut Tree, where
both Matt and Lisa have dined since they were children.
Matt has been featured on two series of the ITV1 Wales cookery programme.
'Food for all Seasons' in which he visits local suppliers and then creates
dishes back in the Foxhunter kitchens using a selection of their produce.
Matt's recipes are also featured in 'The Gastropub Cookbook' by Daily
Telegraph columnist Diana Henry. Lisa, also from Monmouthshire, has a
background in accountancy and manages the business side. The couple have
two young children, Jessie and Henry. The Foxhunter has been the AA Restaurant
of the Year for Wales 2004; Best Newcomer in Wales - Good Food Guide 2003
and won Taste of Wales Dining Out Gold Award 2004 and 2005
S ARAH
SNAZELL (1965-1999)
Cafodd yr artist Sarah Snazell a anwyd yn y Fenni, ac a fu farw'n
33 oed, ei disgrifio fel "un o arlunwyr ffigurol mwyaf gwreiddiol a thalentog
Cymru yn ystod y degawd diwethaf ". Daeth y deyrnged o'r ddarlithwraig
gelf Anne Price-Owen yn y cylchgrawn Planet.
Dangosodd y cylchgrawn luniau Sarah, Losers Weepers a Doppelganger,
ar y clawr blaen a chefn. Yn ddiweddar prynwyd Doppelganger gan
Ymddiriedolaeth Gelf Amgueddfa Brycheiniog i'w arddangos yn oriel gelf
y dref. Anne Price-Owen o Athrofa Addysg Uwch Abertawe, oedd pwrcasydd
Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru ym 1999/2000 ac fe brynodd un o luniau Sarah,
Blind Man's Bluff.
Caiff ei arddangos mewn orielau ar draws Cymru. Dangoswyd ei darlun, Lost
For Words, ar glawr y llyfr, One Woman, One Voice, a oedd yn
cynnwys cyfraniadau gan ddramodwyr blaenllaw Cymru, ac a gyhoeddwyd gan
Parthian Press yn 2000. Cyhoeddwyd llyfr arall gyda'i darlun Cribyn
ar y clawr gan Parthian Press, New Welsh Drama II, a gyhoeddwyd
yn 2001. Bu Sarah yn ddisgybl yn Ysgol y Brenin Harri VIII, ac fe ddilynodd
gwrs sylfaen yng Ngholeg Celf C asnewydd
cyn mynd i Brifysgol Leeds i wneud Gradd Anrhydedd BA a Gradd Meistr.
Gweithiai'n bennaf ar gynfasau mawr mewn olew, gan ddefnyddio'r Mynydd
Du o gwmpas y Fenni'n gefndir. Y llun cyntaf i Sarah ei arddangos yn yr
Eisteddfod Genedlaethol oedd Five Ways (1994). Enillodd ddwy wobr
yn olynol yn arddangosfeydd dwyflynyddol 'Peintiwr Ifanc y Flwyddyn' Academi
Frenhinol Cymru, ac fe gafodd ei hanrhydeddu ymhellach o gael ei gwneud
yn aelod ieuengaf yr academi.
Ar ôl ei marw, talodd Syr Kyffin Williams, llywydd yr academi, deyrnged
i Sarah, a disgrifiodd yntau hi fel "talent gwirioneddol, a pherson hyfryd".
Dywedodd, "Yn yr academi teimlem yn gryf ein bod ni am edrych i'r dyfodol,
a gwelem y dyfodol hwnnw yn Sarah."
Buasai Sarah, a drigai yn Leeds lle sefydlodd hi Stiwdio Artistiaid Jackson
Yard, yn cynllunio arddangosfa unigol yn Oriel Hill Court yn y Fenni cyn
ei marw. Trefnodd ei phartner Hugh Doherty, ei mam Nesta, ei brawd James
a'i chwaer Rachel, fod dymuniadau Sarah yn cael eu gwireddu ac fe gynhaliwyd
arddangosfa goffa yno.
.
ALISON TOD
Os ewch chi i briodas ym myd y bobl fawr neu os ewch chi
i rasys Ascot am y diwrnod efallai y gwelwch chi nifer o greadigaethau
couture creations gan yr hetwraig Alison Tod ar bennau'r enwogion a'r
cyfoethogion.
Ers iddi ddychwelyd i'r Fenni, ei thref enedigol, ym 1990 i lansio ei
busnes ei hunan, Aristohats, mae Alison wedi gwneud enw iddi hi ei hunan
fel un o brif hetwragedd Prydain.
Mae ei hetiau arloesol ar werth mewn rhagor na 150 o siopau ar draws y
byd gan gynnwys Harrods.
Ym mis Chwefror 2001, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan rhodio
fel rhan o Wythnos Ffasiynau Llundain yn Amgueddfa Victoria ac Albert
gan anfon modelau gwrywaidd gan gynnwys y pencampwr ralio rhyngwladol
Nicky Grist i l awr
y rhodfa i fodelu ei chreadigaethau diweddaraf.
Pan ddaeth cyn arlywydd America Bill Clinton i'r Gelli Gandryll ym mis
Mai 2001, cynhaliwyd sioe ffasiynau, a oedd yn cynnwys hetiau Alison,
fel rhan o'r cinio a gynhaliwyd er anrhydedd iddo.
Magwyd Alison yn y Ty^ Cychod, Llan-ffwyst, ac mae'n ystyried mai'r llwyfan
rhodio yw ei chynfas. Mae un o'i hetiau, rhan o gasgliad Cyn-raffaëlaidd,
yn arddangosfa barhaol Amgueddfa Victoria ac Albert ac mae un arall yn
Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Ar ôl iddi adael Ysgol Gwfaint y Fenni ac Ysgol y Brenin Harri VIII, dilynodd
gwrs sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd, astudiodd ar gyfer ei gradd yn
Swydd Gaer a dilynodd gwrs astudiaethau busnes yn Llanbedr Pont Steffan.
Bu'n gweithio yn Llundain i Kangol, ac ar y pryd nhw oedd hetwyr Diana,
Tywysoges Cymru. Enillodd wobr Dylunydd y Flwyddyn Cymru am ddwy flynedd
yn olynol.
NICKY
GRIST
Mae Nicky Grist, sy'n byw yn y Fenni, yn un o'r cydyrwyr mwyaf
llwyddiannus yn y byd ac mae wedi ennill 21 o ralïau'r byd. Ymunodd â'r
gyrrwr Colin McRae ym 1997 ac fe ffrwydrodd y ddeuawd Brydeinig i'r penawdau
newyddion cyn iddynt wahanu ym mis Hydref 2002. Ers hynny mae Grist wedi
sylwebu ar gyfer ITV1 Cymru a Sianel 4 ar Rali Network yng Nghymru ond
nid yw erioed wedi gwadu y bydd yn dychwelyd at gydyrru. Datblygwyd doniau
Grist dros ddegawd a rhagor yn sedd y cydyrrwr gyda thalentau megis McRae,
Juha Kankkunen ac Armin Schwarz. Mae wedi cydyrru ar ralïau byd ar gyfer
llawer o dimau eraill gan gynnwys Subaru, Toyota a Mitsubishi. Gan Ford
y cafodd Grist ei gontract proffesiynol cyntaf a hynny ar gyfer pencampwriaeth
y byd ym 1990. Ym 1992 cymerodd ran y Rali Saffari am y tro cyntaf ar
y cyd â Mikael Ericsson, gan gychwyn perthynas hirhoedlog gyda rali anoddaf
y bencampwriaeth a'i ffefryn personol ei hun. Ym 1993 parodd gyda Kankkunen
prin ddiwrnodau cyn Rali'r Ariannin - ac ennill y gystadleuaeth. Daethant
ynghyd drachefn ar gyfer tair rali olaf y tymor - gan ennill yn gyffrous
yn Awstralia a dod yn drydydd yn Sbaen cyn cyflawni buddugoliaeth yn Rali'r
RAC mewn tywydd gaeafol ofnadwy. Arhosodd Grist gyda Kankkunen am y tri
thymor nesaf, gan ennill ym Mhortiwgal ym 1994. Ond ar ôl i Toyota gael
eu hepgor o'r bencampwriaeth tua diwedd 1995, fe'u cyfyngwyd yn ystod
tymor 1996 i dair ras - a'r canlyniad gorau oedd dod yn ail da yn y Ffindir.
Ym 1997, ymunodd Grist â Subaru yn gydyrrwr newydd i McRae a chafwyd llwyddiant
yn syth bin - enillasant bum buddugoliaeth (Kenya, Corsica, Sanremo, Awstralia
a Phrydain Fawr) a dod yn ail yn y bencampwriaeth. Ym 1998 enillodd y
ddeuawd Brydeinig hon dair ras yn rhagor (Portiwgal, Corsica a Groeg)
cyn symud at Ford a'r Focus newydd ym 1999. Yn fuan yn y tymor enillwyd
rasys yn Kenya a Phortiwgal gan gynyddu nifer rasys pencampwriaeth byd
llwyddiannus Grist i 14. Cynyddodd hynny i 19 gan ennill ar y cyd â McRae
yn Sbaen a Groeg ym 2000 a'r Ariannin, Cyprus a Groeg unwaith yn rhagor
ym 2001. Bellach mae wedi cychwyn ysgol ar gyfer darpar yrwyr rali.
CATHERINE MERRIMAN
Mae
Catherine Merriman, nofelydd ac awdur straeon byrion wedi bod yn byw mewn
pentref y tu allan i'r Fenni ers 1973. Mae'n weithgar iawn ym mywyd y
dref: roedd yn un o sefydlwyr Cymorth i Fenywod y Fenni, a bu'n gweithio
ar ran y grw^p fel gwirfoddolwr ers 11 o flynyddoedd.
Gwnaeth ei holl waith ysgrifennu yma a gallwch chi adnabod yr ardal yn
ei thrydedd nofel, State of Desire. Y Fenni yn sicr yw 'Abercwm', a gallwch
adnabod llefydd lleol trwy gydol y llyfr. Ar hyn o bryd mae'n diwtor ysgrifennu
creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg.
Mae'n briod a chanddi ddau o blant. Ynghyd â gweithio i feithrin llenydda'n
gyffredinol yng Nghymru - mae'n gymrawd i'r Academi Gymreig, mae ar fwrdd
golygyddol y New Welsh Review, ac mae'n feirniad ar gystadleuthau
llenyddol cenedlaethol - mae Catherine hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer
o ddigwyddiadau lleol gan draddodi darlleniadau a sgyrsiau. Nofelau: Leaving
the Light On (Gollancz/Pan 1992); Fatal Observations (Gollancz/Pan
1993 ); State of Desire (Macmillan/Pan 1996); Broken Glass
(Pan 1998) Casgliadau o Straeon: Silly Mothers (Honno 1991 ); Of
Sons and Stars (Honno 1997); Getting a Life (Honno 2001)
MALCOLM
NASH: Malcolm Nash's career for Glamorgan County Cricket Club spanned
17 years. Born in 1945 in Abergavenny he attended Hereford Road Junior,
Abergavenny, and Wells Cathedral School, playing for the Abergavenny Cricket
Club during the summer holidays.
He also played hockey and represented Wales at U23. He played for the
Home Welsh X1, Monmouthshire, South Wales, the Druids, Abergavenny and
Swansea.
He has many family associations with the Abergavenny Cricket Club which
was established in 1834 and is one of the oldest cricket clubs in the
world. His father, E G (Ted) Nash and older brother Colin both played
for the club, and from 1971 until the 1980s, Ted Nash was club president.
Malcolm Nash, pictured right (photograph is copyright of Glamorgan
County Cricket Club) joined Glamorgan in 1966 and was awarded his county
cap in 1969. He was a left-arm, medium-pace seam bowler and a left-handed
batsman. During his Glamorgan career he took 991 wickets and scored 7,120
runs with twenty-five 50s and two centuries. He served as captain in 1980
and 1981, and ended his playing career with Shropshire.
Malcolm Nash will always be remembered for being on the receiving end
of Garfield (now Sir Garfield) Sobers' world record of six sixes in an
over during the match with Nottinghamshire at Swansea in 1968. Nash was
not bowling his usual style - he had been asked by his captain to experiment
with slow left arm bowling as the visitors were nearing a declaration.
Nash views this as just one moment in a long career. The following year
Glamorgan won the championship.
In later seasons, Nash also dismissed Sobers several times with his normal
seam bowling. Nash himself once hit four consecutive sixes off Somerset's
Dennis Breakwell. He left the UK to take up an appointment in Canada in
1991 and from 1996 spent four years promoting junior cricket in Canada.
This was so successful - the number of schoolchildren involved reached
4000 - that he was invited to the United States where now he promotes
junior cricket in California.
JOHN
BARNIE
Ganwyd John Barnie yn y Fenni ym 1941, yn fab i Ted a Melva Barnie
a fu'n cadw siop losin am flynyddoedd lawer yn Stryd Frogmore. Cafodd
ei addysg yn Ysgol Gwfaint San Mihangel y Plant Iau ac Ysgol Ramadeg y
Brenin Harri VIII cyn mynd i Brifysgol Birmingham lle cafodd PhD ym 1971.
Ar ôl 13 o flynyddoedd yn dysgu ym Mhrifysgol Copenhagen, dychwelodd John
i'r Fenni ym 1982 cyn symud i Aberystwyth lle mae nawr yn gweithio fel
golygydd y cylchgrawn diwylliannol Planet. Mae John yn fardd, yn
awdur ffuglen ac yn ysgrifwr ac mae wedi cyhoeddi 14 o lyfrau, gan gynnwys
The King of Ashes (Gomer, 1989) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn
Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae llawer o'i farddoniaeth a'i ffuglen wedi
eu seilio ar ei brofiadau cynnar o'r Fenni a'r wlad o'i hamgylch. Mae
The Confirmation (Gomer, 1992) yn cynnwys nofel fer sy'n gwneud
ffuglen o'i brofiad yn tyfu'n ddyn yn y dref yn y 1940au a'r '50au; ac
mae Abergavenny (Gwasg Gregynog, 1997) yn ysgrif bersonol fer sy'n
sôn am yr hyn y mae'r dref yn ei olygu iddo ef. Mae The Wine Bird (Gomer,
1998) yn gwrthgyferbynnu bywydau dychmygol yn y Fenni yn yr 20fed ganrif
gyda phobl ddychmygol Friars Point, pentrefan Du ym Mississippi. Ymddengys
Mississippi yn ei waith yn aml oherwydd ei ddiddordeb yn y blws. Ei lyfr
ef Y Felan a Finnau (The Blues and Me; Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
oedd y llyfr cyntaf yn y Gymraeg i archwilio ystyr y blws.
Mae John yn gitarydd ac mae wedi perfformio gyda'r triawd blws a barddoniaeth
The Salubrious Rhythm Co. - gyda'r bardd Nigel Jenkins (harmonica)
a'r pianydd jazz Jen Wilson; ynghyd â'r pedwarawd dwyieithog Y Bechgyn
Drwg/The Bad Boys (gyda Nigel Jenkins, Twm Morys ac Iwan Llwyd). Mae
byd natur y Mynydd Du a glannau Afon Wysg yn thema arall ym marddoniaeth
John Barnie. Mae a wnelo hyn â phryderon amgylcheddol ehangach mewn casgliadau
ysgrifau megis No Hiding Place (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996). Ei
lyfrau diweddaraf yw Ice (Gomer, 2001), stori am y dyfodol ar ffurf
penillion, ac At the Salt Hotel (Headland, 2003) casgliad o gerddi.
ANNA PAVORD
Ganwyd
yr awdures Anna Pavord yn y Fenni ac mae'n un o brif awduron y byd garddio.
Bu ei llyfr The Tulip yn llwyddiant mawr drwy'r byd i gyd. Bu'n
ohebydd garddio i'r Independent ers ei lansio ym 1986 a bu'n gweithio
i'r Observer ac mae wedi cyfrannu a chomisiynu erthyglau nodwedd
ar gyfer y cylchgrawn. Mae'n olygydd cyswllt ar Gardens Illustrated.
Ganwyd Anna Pavord yn Victoria Cottage Hospital ym 1940. Magwyd ei mam,
Christabel Lewis, ar fferm y teulu, Y Pant, ac roedd ei thad yn athro
y mae ambell i un yn dal i'w gofio'n serchus. Mae wedi ysgrifennu nifer
o lyfrau am arddio. Ysgrifennwyd y cyntaf, Growing Things ar gyfer plant
ac fe'i cyhoeddwyd ym 1982. Cyhoeddwyd y nesaf, Foliage ym 1990 ac roedd
yn un o gyfres o lyfrau garddio a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyhoeddwyd The Flowering Year ym 1991 a'r Gardening Companion
y flwyddyn ddilynol. Ym mis Mawrth 1994, roedd The Border Book
yn rhestrau deg uchaf y llyfrau garddio ac fe gyhoeddwyd The New Kitchen
Garden ym 1996. Yna ym 1999 cyhoeddwyd The Tulip a arhosodd ar ben y rhestrau
gwerthiant am lyfrau ac eithrio ffuglen yn y Deyrnas Unedig ac America
am beth amser. Ei llyfr diweddaraf yw Plant Partners. Mae hi hefyd
yn cyfrannu o bryd i'w gilydd at gylchgronau eraill megis Country Life.
Mae'n aelod o Banel Parciau a Gerddi Treftadaeth Lloegr ac yn gadeirydd
Panel Gerddi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Anna Pavord yn cofio ei magwraeth yn y Fenni gyda hoffter. Aeth i
Ysgol Iau Park Street ac yna i Ysgol Stryd y Castell ac i Ysgol Uwchradd
y Merched yn Ffordd Harold. Am y 29 mlynedd diwethaf mae hi a'i gw^r,
sy'n ymgynghorydd marchnata, wedi bod yn byw yng Ngorllewin Dorset mewn
hen reithordy gydag acer a hanner o ardd. Ar ôl astudio Saesneg yn y brifysgol,
cafodd ei swydd gyntaf gyda'r BBC wrth i BBC2 gael ei lansio. Am saith
mlynedd bu'n gweithio fel cynorthwyydd cynhyrchu ac yna fel cyfarwyddwr
ar Line-up, rhaglen ddyddiol fyw am deledu a'r cyfryngau.
Dychwelodd at y teledu i wneud Flowering Passions, cyfres o ddeg
o raglenni y bu iddi hi ei hymchwilio, ei hysgrifennu a'i chyflwyno ar
gyfer Sianel 4. Cafwyd cynulleidfa o 4 miliwn ac fe arhosodd y rhaglen
yn neg uchaf rhaglenni Sianel 4 am bron y cyfan o'r amser y bu ar yr awyr,
o dan Roseanne ac yn uwch na Cheers. Ei rhaglen gyntaf ar
y radio oedd The Garden Show i Radio 2. Mae wedi cyfrannu at Kaleidoscope
ac fe gyflwynodd rifyn arbennig o Kaleidoscope am Flora Britannica.
Ysgrifennodd a chyflwynodd un o'r rhaglenni yng nghyfres Radio 4 Better
Than Sex ac mae wedi gwneud nifer o gyfresi ar gyfer Radio 4, Transplantations
a The Green Detectives. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o ddarnau
i'r Proms ar Radio 3.
ANN AND FRANCO
TARUSCHIO: Details to follow
PATRICIA
AND CHARLES LESTER:
Details to follow
HARRY MEADOWS:
Os ewch chi i Gornel y Beirdd yn Abaty Westminster fe welwch chi gofgolofn
a grëwyd gan yr artist/dylunydd/crefftwr o'r Fenni, Harry Meadows, a anwyd
ym 1931, caligraffydd ac addurnwr o fri.
Mae'r gofgolofn, sy'n fwy na chwe throedfedd o hyd, ar ffurf llechfaen
Westmorland wedi ei mewnlenwi mewn lliw a'r dyfyniad "My story is of war
and the pity of war". Mae'r llechen yn las er mwyn symboleiddio meysydd
Fflandrys; mae'r llythrennau'n goch er mwyn cynrychioli'r pabi a gwaed
- y lliw llwydwyn yn cynrychioli'r felwm y bydd beirdd yn ei ddefnyddio.
Fe'i comisiynwyd yn y 1980au ac fe'i dadorchuddiwyd gan y Bardd Llawryfog
ar y pryd Ted Hughes. Cliciwch
yma i weld y gofgolofn.
Aeth Harry Meadows i Ysgol y Bechgyn Ffordd Henffordd ac yna i Ysgol Ramadeg
y Brenin Harri VIII.
Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Celf Casnewydd ac Athrofa Addysg Prifysgol Llundain.
Bu'n uwch ddarlithydd yng nghyfadran gelf a dylunio Coleg Addysg Uwch
Gwent, Coleg Celf Casnewydd gynt.
Mae wedi ei gomisiynu i greu gwahanol ddarnau gan Bwyllgor Ymgynghorol
Crefftau, Amgueddfa Victoria ac Albert, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,
Cyngor Celfyddydau Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru ymhlith eraill.
Gallwch weld un darn o waith o'i eiddo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth. Bu ei arddangosfa Touch of Gold, yn Amgueddfa'r Fenni rhwng
mis Gorffennaf a mis Medi 2001.
BERT ISAAC
(1923 - 2006)
Ganwyd yr artist Bert Isaac yng Nghaerdydd ym 1923. Mae'n byw ac yn gweithio
yn y Fenni, Sir Fynwy ers iddo symud yno tua 19 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n
arddangos paentiadau a phrintiadau'n rheolaidd yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae ei waith i'w gael mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan
gynnwys Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Gelf Gyfoes
Cymru, Oriel Celf Fodern Dinas Urawa yn Siapan, Prifysgolion Rhydychen
a Llundain, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ym Mryste, Amgueddfa Brycheiniog
yn Aberhonddu, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Amgueddfa Celf Fodern,
Machynlleth.

Arferai fod yn ddarlithydd ar Gelf a Dylunio mewn Addysg
ym Mhrifysgol Llundain, ac roedd yn un o sylfaenwyr y Grw^p Cymreig a
Chymdeithas Dyfrlliw Cymru, mae'n Aelod Artist Anrhydeddus o Academi Frenhinol
Cymru ac yn uwch academydd yn Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr. Mae
wedi ennill y fedal aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ym mis Mehefin
1999 cafodd M.B.E. yn Rhestr Anrhydeddau Pen Blwydd y Frenhines. Mae Bert
Isaac wedi dylunio nifer o lyfrau ac mae wedi cyfrannu nifer o luniau
iddynt, ac o blith y rheiny mae The Landscape Within yn cynnwys
testun ysgrifenedig o'i waith a ffolio o brintiadau a gyhoeddwyd gan The
Old Stile Press, Llandogo. Adolygwyd ei arddangosfa Remembered Places
a gynhaliwyd yn Oriel Gelf Casnewydd gan Dr Peter Wakelin yn Modern
Painters. Bu Bert Isaac yn destun traethawd gan y Dr Sheila Paine
a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Planet yn ystod Haf 2001, a chynhaliwyd
ei arddangosfa Haf yn Oriel Hill.
RAYMOND
WILLIAMS: 1921 - 1988
Raymond Williams has been described as one of the most original thinkers
of the 20th century. He was an academic, novelist, critic and socialist
who pioneered the study of popular culture saying that it was just as
relevant as the highbrow form. He was born in Pandy, near Abergavenny,
the son of a railway signalman, and attended King Henry VIII School, Abergavenny,
before winning a place at Trinity College, Cambridge. His studies were
interrupted by World War II and he joined the army serving as an anti-tank
captain in the Guards Armoured Division, 1941-45. After the war he returned
to Cambridge and then worked in adult education.
In the 1950s he helped to launch the New Left Review. He became a lecturer
at Cambridge, and from 1974 to his retirement in 1983 was the Professor
of Drama. In addition to his academic and political books, he also wrote
novels, setting his books in the countryside where he grew up: Border
Country, Second Generation, The Fight for Manod, The Volunteers, Loyalties
and People of the Black Mountains.
Professor Dai Smith, the former head of English-language programmes at
BBC Wales, rated Border Country, (1960) as one of the ten best novels
in the English language - and the finest novel written in 20th Century
Wales about 20th Century Wales.
His other books included Culture and Society 1780-1960 (1958), The Long
Revolution (1961), Keywords (1976), Communications (1962), Second Generation
(1964), Orwell (1971), The Country and the City (1973), Television: Technology
and Cultural Form (1974), Marxism and Literature (1977), The Volunteers
(1978), Problems in Materialism and Culture (1980), Culture (1981), Writings
in Society (1983) and Loyalties (1985). In addition, there were plays,
pamphlets, and innumerable reviews.
SYR HARRY
LLEWELLYN (1911-1999)
Caiff y neidiwr ceffylau Syr Harry Llewellyn ei gofio'n bennaf am y fedal
aur a enillodd gyda Foxhunter yn y Gemau Olympaidd ym 1952 yn Helsinki.
Bu i Syr Harry a ddaeth yn ail yn y Grand National ym 1936 hefyd ennill
medal efydd fel rhan o dîm yn y Gemau Olympaidd ym 1948 yn Llundain, gyda
Foxhunter eto. Enillodd y ddau 78 o gystadleuthau rhyngwladol. Bu farw
Foxhunter ym 1959 yn 19 oed, ac mae cofgolofn iddo ar ben mynydd Blorens.
Yn ystod yr ail ryfel byd, bu Syr Harry yn yr Eidal a Normandi ac fe gafodd
OBE. Roedd yn gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru rhwng 1971 a 1980.
ETHEL LINA
WHITE: (1876-1944)
Ganwyd
yr awdures Ethel Lina White yn Stryd Frogmore, Y Fenni, ac roedd yn un
o'r awduron enwocaf ym Mhrydain a'r Amerig am ei nofelau trosedd yn y
1930au a'r 40au. Cafodd un o'i llyfrau enwocaf, The Wheel Spins,
ei addasu'n ffilm hynod ym 1938 gan Hitchcock, sef The Lady Vanishes.
Eto i gyd nid yw Ethel Lina'n wybyddus iawn yn ei thref enedigol, sy'n
eironig ddigon o ystyried teitl y ffilm. Tros y blynyddoedd diwethaf fodd
bynnag mae diddordeb cynyddol yn ei gwaith. Bu addasiad llwyfan o The
Lady Vanishes gyda Victor Spinetti yn y brif ran yn teithio Prydain o
fis Mawrth hyd fis Gorffennaf 2001; ac mae ein cymdeithas ni wedi codi
plac glas iddi yn ei man genedigol yn Stryd Frogmore.
Cymharwyd ei gwaith gorau gyda gwaith Edgar Allen Poe oherwydd yr awyrgylch
o dyndra sydd ynddo. Bu llyfr arall Some Must Watch o'i heiddo'n
sylfaen i'r ffilm arswyd glasurol The Spiral Staircase ym 1946
gan y cyfarwyddwr Robert Siodmak.
Roedd Ethel Lina yn ferch i'r adeiladydd a'r dyfeisiwr William White a'i
ail wraig Charlotte Eliza, ill dau'n hanu o Clifton, ger Bryste. I ddechrau
bu'r teulu'n byw yn ardal Ffordd Merthyr neu Ffordd Aberhonddu a symudasant
i Stryd Frogmore cyn ymsefydlu mewn ty^ arloesol a godwyd gan ei thad
a oedd yn ymgorffori ei ddull patentedig o ochel rhag gwlybaniaeth. Symudodd
i Lundain ar ôl y rhyfel byd cyntaf, a bu farw yn Chiswick ym 1944.
JOHN FIELDING
(a adwaenir yn well fel John Williams, 1857-1932) Cafwyd y ffotograff
gan Amgueddfa Catrawd Frenhinol Cymru (Cyffinwyr De Cymru gynt), Aberhonddu.
Cysylltir
John Fielding a enillodd Groes Fictoria ar ôl brwydr Rorke's Drift ym
1879 â Chwmbrân, ond ganwyd ef yn Ffordd Merthyr, Y Fenni, ar Fai 24,
1857, yn ail fab i'r Gwyddel Michael a Margaret Fielding (nee Godsil).
Pan oedd John yn bump, symudodd y teulu gyda'r tad i Gwmbran i chwilio
am waith labro. Gadawodd John yr ysgol yn naw oed a dechreuodd weithio
mewn ffatri nyts a bolltiau. Ymunodd â'r fyddin - yn Nhrefynwy ar Fai
22, 1877, yn 24ain Gatrawd Draed Swydd Warwick, ac ni wyddys pam y defnyddiodd
y ffugenw Williams. Cafodd ei bostio i Gwmni B, 2il Fataliwn, 24ain Gatrawd.
Dywed y ddyfynneb am y frwydr enwog yn Rorke's Drift yn erbyn 3,000 o
Swlwiaid: "Cafodd y Preifat John Williams, ei gyfaill agos y Preifat Joseph
Williams a'r Preifat William Horrigan, eu postio i ystafell bellenig o'r
ysbyty. Yn y brwydrau, Williams, Hook, Robert Jones ac W Jones, oedd y
pedwar olaf i adael. Tyllodd y Preifat John Williams dwll yn y wal a llwyddodd
i symud dau glaf i le diogel dros dro.
Roedd y Preifat Alfred H Hook, cogydd yr ysbyty, yn amddiffyn yr ystafell
arall. Llwyddodd Preifat Williams i flocio un twll. Dim ond trwy feddwl
chwim y Preifat John Williams a dewrder amddiffynwyr eraill yr ysbyty,
y dygwyd y cleifion i ddiogelwch. Ymddangosodd Pedwaredd Golofn y Fyddin
Brydeinig. Ar ddiwedd ei ran ef o'r frwydr nid oedd ganddo ond dwy rownd
o fwledi'n weddill. Ym 1914 fe'i gwnaed yn asiant recriwtio Cyffinwyr
De Cymru. Agorwyd Ty^ John Fielding, cartref preswyl a enwyd ar ei ôl,
yn Llantarnam, Cwmbrân, ym 1973.
ROBERT JONES:
(1857-1898) Cafwyd y ffotograff gan Amgueddfa
Catrawd Frenhinol Cymru (Cyffinwyr De Cymru gynt), Aberhonddu.
Fe'i
ganwyd ym Mhenrhos, Clytha, ger Rhaglan, ar 19 Awst, ac roedd y Preifat
Robert Jones yn gwasanaethu gydag Ail Fataliwn y 24 ain Gatrawd Droed
pan ddaeth yn un o 11 o filwyr a enillodd Groes Fictoria ym mrwydr Rorke's
Drift. Defnyddiodd Jones ei fidog i amddiffyn mynedfa un o wardiau'r ysbyty
nes iddi lenwi â chyrff Swlwiaid marw a chlwyfedig. Er iddo gael ei glwyfo
gan bedair gwaywffon ac un fwled, helpodd i symud chwech o gleifion oddi
yno trwy dyllau yn y waliau wrth iddynt encilio o'r adeilad a oedd yn
wenfflam erbyn hynny.
Ar ôl iddo adael y fyddin symudodd Robert Jones i Swydd Henffordd i fyw
a bu'n gweithio fel gwas fferm. Pan oedd yn 41, benthycodd wn saethu ei
gyflogwr er mwyn saethu brain ac yn ddiweddarach darganfuwyd ef yn farw
wedi ei saethu. Cofnodwyd dyfarniad o "hunanladdiad ar adeg o wallgofrwydd
dros dro" ar ôl i'r crwner glywed tystiolaeth fod Jones wedi cael hunllefau
ar ôl y frwydr yn Rorke's Drift. ER bod gwaharddiad ar gladdu hunanleiddiaid
ar dir sanctaidd, golygai Croes Fictoria'r Preifat Jones fod hawl ganddo
i gael ei gorff wedi ei gladdu ym mynwent Peterchurch, Swydd Henffordd,
ond daethpwyd â'r arch i'r fynwent tros y wal, ac mae ei garreg fedd yn
wynebu i ffwrdd o'r beddrodau eraill er mwyn dynodi sut y bu farw.
Ym 1998 awgrymwyd mewn erthygl mewn papur newydd y dylid unioni ei garreg
fedd, ond i fedru gwneud hynny byddai'n rhaid newid dyfarniad y crwner.
Gwerthwyd ei Groes Fictoria mewn arwerthiant ym 1996 i brynwr preifat
am £80,000, gan guro bid Amgueddfa Catrawd Frenhinol Cymru.
AUGUSTA HALL (ARGLWYDDES
LLANOFER) (1802 - 1896)
Ganwyd Augusta Waddington yn Llanofer ar 21ain Mawrth 1802, yn ferch i
dir feddianwyr Seisnig a oedd wedi ymsefydlu yng Nghymru. Yn 21 oed priododd
Benjamin Hall (a roes ei enw i 'Big Ben' - gweler isod). Yn ddiweddarach
cymerasant y teitlau Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer.
Bu Arglwyddes Llanofer yn frwd iawn dros draddodiadau Cymreig, gan hybu'r
iaith Gymraeg a cherddoriaeth a diwylliant Cymreig yn wyneb llanw cynyddol
y Seisnigeiddio a oedd ar droed yn oes Fictoria. Erbyn 1837, roedd stad
Llanofer yn ganolfan i feirdd, cerddorion ac academwyr Cymreig. Bu'n hybu'r
delyn deires fel offeryn cenedlaethol, ac fe gyhoeddodd gyfrol gyda darluniau
am y wisg genedlaethol Gymreig. Roedd disgwyl i'w thenantiaid a'i gweithwyr
siarad Cymraeg, a bu'n rhaid iddynt wisgo dillad Cymreig wedi eu gwneud
o wlanen a wehyddwyd yn bennaf ym melin wlân Gwenffrwd ar ei stad lle'r
oedd wedi sefydlu praidd o Ddefaid Mynydd Duon Cymreig.
Cymerodd Arglwyddes Llanofer yr enw barddol 'Gwenynen Gwent' ac enillodd
wobr yn Eisteddfod Caerdydd ym 1834. Ffurfiwyd y gymdeithas ddiwylliannol
ddylanwadol, 'Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni' ym 1833 a bu'n aelod gweithgar.
Rhwng 1834 a 1853, Eisteddfod flynyddol y Fenni oedd y fwyaf yng Nghymru,
a denodd ymwelwyr o bellafion byd o Sardinia a Denmarc. Codwyd neuadd
hyd yn oed yn Stryd Tudur i lwyfannu'r Eisteddfod. Bu Arglwyddes Llanofer
yn noddi Cymdeithas Llawysgrifau Cymru a Choleg Llanymddyfri. Ysgrifennodd
ei llyfr enwog 'The first Principles of Good Cookery' ac roedd yn llwyrymwrthodwraig
a brynodd bob tafarn yn y cylch a'u troi'n dai te. Ffurfiwyd cymdeithas
i goffau ei bywyd yn 2002; y llywydd yw Elizabeth Murray, ei gor-or-or-wyres
(gweler y dudalen 'Dolenni').
BENJAMIN
HALL III (ARGLWYDD LLANOFER) (1802-67),
Roedd Arglwydd Llanofer yn fab i Benjamin Hall II a Charlotte Crawshay,
merch ieuengaf Richard Crawshay, meistr haearn Cyfarthfa, a oedd yn berchen
ar Stad Abercarn.
Roedd yn ddyn blaenllaw mewn bywyd cyhoeddus a bu'n aelod seneddol o 1831
hyd 1859, dros Fwrdeistrefi Mynwy i ddechrau ac yna dros Marylebone. Fe'i
gwnaed yn farwnig ym 1838 ac ym 1855 daeth yn Gomisiynydd Seneddol dros
Waith, y cyntaf i ddal y swydd . Codwyd y Senedd tra oedd yn ei swydd
a gan ei fod yn ddyn tal iawn dywedir bod cloch canu'r awr a elwir 'Big
Ben' yn nhw^r y cloc wedi ei henwi ar ei ôl ef. Cafodd ei wneud yn arglwydd
ym 1859 Ac fe gymerodd y teitl 'Barwn Llanofer o Lanofer ac Abercarn'.
ST DAVID LEWIS:
(1616-1679),
Offeiriad a merthyr, a anwyd yn y Fenni, yn fab i brifathro Ysgol Ramadeg
Harri VIII. Cafodd ei fagu'n Brotestant ac fe ddaeth yn Babydd ym Mharis
yn w^r ifanc. Bu'n astudio yn Rhufain ac fe gafodd ei ordeinio'n offeiriad
yno cyn mynd yn Jeswit. Ym 1647, daeth adref ac am 30 mlynedd a rhagor
bu'n gweithio ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Sir Fynwy. Roedd y mynach
Pabyddol hynod y Tad (David) Augustine Baker (1575-1641) yn hen ewythr
iddo.
Oherwydd y teimladau gwrth-Babyddol a oedd yn cyniwair yn sgil 'Cynllwyn
Pabyddol' Titus Oates, arestiwyd David Lewis yn Llantarnam, ac fe'i dygwyd
i'r Fenni a'i garcharu ym Mynwy. Cafodd ei grogi, ei dynnu a'i ddarnio
ym Mrynbuga ar Awst 27, 1679. Cafodd ei wynfydu ym 1929 a'i ganoneiddio
ym 1970 gan y Pab Paul VI yn un o Ddeugain Merthyr Cymru a Lloegr. Mae
cofgolofn i St David Lewis yn Eglwys Gatholig y Forwyn Fair a San Mihangel.
Mae plac yn marcio Ty^ Gunter House yn Stryd y Groes lle darganfuwyd Capel
Catholig cyfrinachol ym 1907 wrth wneud newidiadau i ystafell yn yr atig
yn y talcen ar yr ochr dde i'r ty^. Mae murlun reredos y capel bellach
i'w weld yn Amgueddfa'r Fenni.
DR DAVID
LEWIS (d.1584)
trigai yn Llanddewi Rhydderch, ac ef oedd mab ficer Eglwys Priordy'r Santes
Fair yn y Fenni. Daeth yn enwog trwy fynd yn ymgynghorydd i'r Frenhines
Elizabeth I. Bu'n Farnwr Uchel Lys y Morlys ac ef oedd prifathro cyntaf
Coleg yr Iesu, Rhydychen. Dyluniodd ei feddrod ei hunan roddwyd cyn ei
farw yng Nghapel Lewis yn Eglwys y Priordy. Mae'r addurnwaith sydd arno'n
cyfeirio at wahanol agweddau ar ei fywyd. Dangosir ef yn ei wisg gyflawn,
ac mae paneli blaen y beddrod yn llawn dail coed derw sy'n cyfeirio at
'Galonnau Coed Derw' y gwneir llongau ohonynt.

|