Tapestri'r Fenni

Y Parchedig Ganon Jeremy Winston, chwith, yn bendithio'r pwyth cyntaf, yng nghwmni David Davies AC, Mrs Sheila Bevan, Mrs McCombie ac aelodau eraill o'r grw^p Prosiect mawr y mileniwm yw Tapestri'r Fenni ac mae'n dathlu mil o flynyddoedd o hanes yn y dref.

Dechreuodd y gwaith ar y tapestri yn 2002 gan dîm o ryw 50 o wirfoddolwyr, ac fe ddaeth y gwaith i ben eleni (fe'i gorffennwyd erbyn y Gwanwyn eleni) am gost o £20,000. Yr ymgynghorwyr proffesiynol oedd yr artist Susie Martin a ddyluniodd y cartw^n o syniadau gan y grw^p, a Sarah Windrum, yr ymgynghorydd technegol ar y pwytho, y tyndra a'r lliwiau, ac a fu'n goruchwylio'r modd y trosglwyddwyd y cartw^n i'r gynfas.

Roedd y Parchedig Ganon Jeremy Winston, ficer Eglwys Priordy'r Santes Fair yn frwd iawn pan soniwyd wrtho am y prosiect yn y lle cyntaf ac fe drefnodd i'r gwaith pwytho gael ei wneud yng Nghapel Lewis yn y lle cyntaf. Mae'r capel wrthi'n cael ei adfer ar hyn o bryd a symudwyd y gwaith i ran arall o'r eglwys.

Cefnogwyd y prosiect hefyd gan Ymddiriedolaeth Ddatblygu Priordy'r Santes Fair dan gadeiryddiaeth Syr Trefor Morris. Cafodd y grw^p grantiau gan Gronfa'r Lotri ac Ymddiriedolaeth y Tywysog hefyd. Mae'r Tywysog Siarl yn un o noddwyr Ymddiriedolaeth Ddatblygu Eglwys y Santes Fair.

SESIYNAU PWYTHO:Gweithio ar y tapestri yn Eglwys Priordy'r Santes Fair
Cynhaliwyd sesiynau pwytho o 10.00am tan 1.00pm ac o 1.00pm tan 4.00pm o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener; ac o 10.00am hyd 1.00pm ar Ddydd Sadwrn. Cafodd ymwelwyr a ddeuai i'r eglwys weld y gwaith yn mynd rhagddo.

Cynhwyswyd Dyddiau Sadwrn fel y gallai pobl ifanc a phobl sy'n gweithio'n llawn amser ddod hefyd. Gan ei fod yn brosiect cymunedol golygai fod crefftwyr arbenigol yn helpu i gadw crefftau gwlân Cymreig yn fyw. Ar ôl adfer yr Ysgubor Ddegwm yn ganolfan dreftadol a chelfyddydol, caiff Tapestri'r Fenni ei roddi i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Eglwys Priordy'r Santes Fair yn rhodd i bobl y dref ac ymwelwyr ei fwynhau fel arddangosfa barhaol.

logos